![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | peasant revolt, gwrthryfel ![]() |
---|---|
Dyddiad | Tachwedd 1381 ![]() |
Dechreuwyd | 30 Mai 1381 ![]() |
Daeth i ben | Tachwedd 1381 ![]() |
Lleoliad | Lloegr ![]() |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
![]() |
Gwrthryfel yn Lloegr ym 1381 oedd Gwrthryfel y Werin[1] neu Wrthryfel y Gwerinwyr.[1] Achoswyd gan sefyllfa economaidd wael y bobl gyffredin ac yn enwedig cyflwyniad treth y pen dan y Brenin Rhisiart II[2] a'r Pla Du yn y 1340au. Ymhlith arweinwyr y gwrthryfel oedd Wat Tyler a John Ball.
Ond yr hyn a ffrwydrodd y sefyllfa oedd ymweliad John Bampton yn Essex ar 30 Mai 1381 pan geisiodd gasglu trethi yn nhref Brentwood. Trowyd at drais a ledaenodd ar hyd a lled de-ddwyrain Lloegr fel tân gwyllt. Ymunodd y bobl gyffredin yn y brotest gan losgi llysoedd ac agor drysau'r carchardai. Nod y gwrthryfelwyr oedd lleihau'r trethi, rhoi diwedd ar y drefn o daeogaeth a diddymu llysoedd a swyddogion y Brenin.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search